Ysgol Morfa Nefyn
Datblygodd Morfa Nefyn i fod yn bentref yn sgil adeiladu ffordd dyrpeg newydd ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Lón Bridin yw enw’r ffordd sy’n eich arwain o’r pentref i’r traeth siáp cryman bendigedig. Wrth i chi sefyll ar y traeth yn wynebu’r mór, saif hen bentref pysgota Porthdinllaen i’r chwith i chi a mynyddoedd cadarn yr Eifl i’r dde.
Mae Morfa’n rhan o ardal o harddwch naturiol eithriadol ac mae gwerthfawrogiad y plant o hyfrytwch y pentref a’r traeth yn amlwg wrth i chi ddarllen y cerddi sydd wedi’u hysgrifennu ganddynt a’u cyhoeddi’n y llyfryn Gair Mewn Gwlan. Er mwyn rhoi hwb i’r awen, daeth Mared Llywelyn, awdures a chyn ddisgybl o Ysgol Morfa draw i gyflwyno’r enwau difyr sy’n perthyn i’r ardal ac i helpu efo’r cyfansoddi.
Dewch am dro!
Llwybr llydan a’r cerrig yn clecian
Pwll Wiliam yn llonydd ac yn llachar
Hwyaid hapus yn dweud helo.
Llwybr arfordir cul,peryglus.
Tonnau yn taro ar y tywod.
Cychod pysgotwyr prysur yn siglo ar y mor mawr.
Llusgo tywod man i fyny Lón Bridin.
Ceir cyflym yn gwibio heibio’r garej.
Croesfan brysur Cae Coch
Morfa bach hardd yw ein Morfa bach ni.
Ni bia Morfa a Morfa bia ni.
Blwddyn Derbyn a Blwyddyn 1, Ysgol Morfa Nefyn
Cefnlen Morfa Nefyn
Ar ôl dewis deuddeg enw’n perthyn i’r fro, daeth merched Gweill Gobaith sy’n cyfarfod yn Bryn Noddfa pob p’nawn Mercher, draw i helpu i wnio’r geiriau ar y gefnlen. ‘Roedd y weithgarwch o gasglu’r geiriau’n plethu’n berffaith i’r thema ‘Morfa bach hardd yw ein Morfa bach ni’ ac yn fodd o serio’r enwau hynod ar góf a chadw am byth.
Nel, Casi, Erin, Esmee a Cara gyflwynodd cefnlen lliwgar Ysgol Morfa a’r hanes tu ól i’r enwau difyr ym Mhabell yr Eco Amgueddfa yn Eisteddfod Llyn ac Eifionydd.
Dyma’r cyflwyniad;
Nel: Plant Ysgol Morfa Nefyn ydan ni. Mae Morfa Nefyn ym Mhenrhyn Llyn
Casi: Mae Morfa Nefyn yn lle bendigedig
Erin: Cyn gwyliau’r Haf, ein thema oedd ‘Morfa bach hardd yw ein Morfa bach ni, ni bia Morfa a Morfa bia ni’.
Nel: Roedden ni eisiau dysgu mwy am ein milltir sgwar er mwyn dysgu enwau lleol i’w rhoi ar y blanced
Esmee: Daeth Mared Llywelyn draw i’r ysgol i chwarae gemau difyr a chyflwyno enwau newydd i ni.
Nel: Wedyn aethom o amgylch y pentref ac ar hyd llwybr yr arfordir i ymweld á’r enwau ddywedodd Mared e.e. Ogof bebyll, Carreg yr afr, Carreg ddu a Lón Bridin.
Casi: Aethom am drip ysgol hefyd i Borthdinllaen a chael diwrnod gwerth chweil yn dysgu mwy am waith pwysig Bad Achub.
Nel: Ysgrifennodd plant dosbarth blwyddyn derbyn ac 1 gerdd am y daith. Dyma hi.
Nel: Daeth Caryl o’r Amgueddfa i’r ysgol i ddangos hen luniau o Morfa Nefyn.
Casi: Aethom lawr i’r pentref gyda’r lluniau i weld beth oedd wedi newid.
Erin: Wel wir, mae yna newid mawr yn Morfa Nefyn. Edrychwch! Mae ceffyl a throl yn y llun yma!
Cara: A dim polion trydan!
Nel: Yn ól yn yr ysgol, bum yn edrych ar fapiau o Morfa Nefyn a daeth Mei Mac i wneud mwy o waith map efo ni.
Esmee: Búm hefyd yn creu cerddi yn nosbarth blwyddyn 2 a 3 am lefydd lleol.
Erin: ‘Rydym wedi’u cyflwyno i gystadleuaeth yn yr Eisteddfod a chreu ffug enw!
Nel: ‘Rydym wedi dewis deuddeg enw ar gyfer ein planced ni.
Erin: Bum yn brysur yn pwytho a gwnio.
Esmee: Dyma ein campwaith!
Nel: Ar ól yr Eisteddfod mi f’asa ni wrth ein boddau pe bai’r blanced yn cael ei gosod rhywle yn y gymuned.
Erin: Beth am y Ganolfan? Neu cwt y Bád Achub?