top of page
Chwarel Trefor.png

Teithiau Rhithiol

Cafodd #Ecoamgueddfa Pen Llŷn, yr ecoamgueddfa gyntaf yng Nghymru, a hyd y gwyddom yr ecoamgueddfa ddigidol gyntaf yn y byd ei chreu drwy gydweithio agos rhwng Lab Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor, Cyngor Gwynedd a’r partneriaid ym Mhen Llŷn. Mae’r tîm bellach wedi’i leoli yn Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, ac maent yn gweithio’n agos gydag archeolegwyr yr Ysgol er mwyn cyflwyno ystod o ddigwyddiadau ymgysylltu â’r gymuned ac adnoddau digidol archaeolegol. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu teithiau rhithiol panoramig sy’n arddangos y dreftadaeth archeolegol ysblennydd a’r arfordiroedd sydd gan Ben Llŷn i’w cynnig.

bottom of page