Saffari Bywyd Gwyllt Pen Llŷn
Un o’r prosiectau cyffrous dan arweiniad Robert Parkinson o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw’r saffaris bywyd gwyllt sy’n adnabod pum rhywogaeth allweddol a chyldeithiau cerdded o gwmpas safleoedd Ecoamgueddfa Llŷn.
Nod y gwaith yw annog pobl i fynd allan i ganol byd natur yr ardal i chwilio am y rhywogaethau sy’n cartrefu o gwmpas y safleoedd. Pa well ffordd o wneud hyn na gweithio gydag ysgolion lleol i ysbrydoli plant fydd, yn eu tro, yn annog eu rhieni i fentro allan?
Cafodd y plant gyfle i fynd ar deithiau natur, astudio’r rhywogaethau yn yr ysgol a chymryd rhan mewn gweithdai celf tu mewn a thu allan er mwyn creu’r mapiau hyfryd yma dan arweiniad artist lleol. Mae eu gwaith nhw a’r plant yn werth eu gweld.
Ffilm Saffari Bywyd Gwyllt Llŷn
Mae'r ffilm hon yn dogfennu'r daith o greu Safar Bywyd Gwyllt Pen Llyn, gan ganolbwyntio ar y safari bywyd gwyllt Porthor. Mae'n cynnwys yr artist Sioned Medi yn cydweithio â phlant o Ysgol Tudweiliog, gan ddangos eu proses greadigol a harddwch bywyd gwyllt lleol. Cynhyrchwyd y ffilm gan Sion Evans, Cadno Creative.