I Grwydro Llŷn
- Ecoamgueddfa
- Mar 26
- 2 min read
Mae straeon, hanesion a phobl cymunedau Llŷn ymhlith y pethau sy'n gwneud y lle’n gwbl arbennig. Ac mae gan bob pentref, traeth, bryn, capel, llwybr a ffordd hanesion neu atgofion unigryw a diddorol. Ond wrth i amser fynd heibio a newidiadau’n digwydd gall y straeon a'r atgofion yma gael eu hanghofio a diflannu.
Mae’r prosiect ‘I Grwydro’ eisiau clywed a chofnodi cymaint o'r straeon a’r atgofion hyn â phosib. Rydym am ganolbwyntio ar dair ardal – Llanbedrog, Rhiw a Phorthdinllaen – gan drefnu teithiau cerdded dan arweiniad haneswyr, awduron a phobl sy'n byw yn y cymunedau. Hoffem gael eich help chi i wneud hyn. Prun a ydych chi wedi byw yn lleol drwy gydol eich oes, wedi symud yn ddiweddar, yn hen neu'n ifanc, hoffem i chi rannu eich profiadau, eich straeon a'ch atgofion am y lleoedd hyn gan ddweud beth sy'n eu gwneud yn arbennig i chi. Os hoffech ddysgu mwy am yr ardaloedd yma byddai hwn yn gyfle gwych, ac mae croeso i unrhyw un ymuno, boed i rannu straeon neu wrando ar eraill.
Bydd y teithiau cerdded/sgyrsiau yn cael eu harwain gan Iwan Hughes yn Llanbedrog, Meinir Pierce Jones ym Mhorthdinllaen ac Emlyn Jones yn Rhiw. Ceir wedyn sesiynau rhannu straeon, sy'n golygu y gall pobl sy’n methu ymuno â'r teithiau cerdded rannu eu hatgofion a phrofiadau a gwrando ar eraill hefyd.
Dyddiadau ar gyfer y dyddiadur

12fed Ebrill – Porthdinllaen, cyfarfod ym maes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a mynd am dro o amgylch Porthdinllaen dan arweiniad Meinir Pierce Jones. Rhannu straeon, te a chacen wedyn yn Amgueddfa Forwrol Llŷn.
Cychwyn am 10yb

13eg Ebrill – Rhiw, sgwrs gan Emlyn Jones, a thaith gerdded o gwmpas Rhiw. Rhannu straeon, te/cacen, lleoliadau i'w cadarnhau.
Cychwyn am 10yb

26ain Ebrill – Llanbedrog, cychwyn o Blas Glyn y Weddw , taith gylchol dan arweiniad Iwan Hughes ar hyd y traeth, i fyny o amgylch Crugan ac yn ôl drwy'r pentref. Rhannu straeon ym Mhlas Glyn y Weddw wedyn.
Cychwyn am 10yb
Os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth am y teithiau cadwch lygad allan am fanylion ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Llŷn ac Ecoamgueddfa Llŷn neu cysylltwch â Llyn@nationaltrust.org.uk
Comments