top of page

Morloi Llwyd Bach

Ben Porter

Yn yr Hydref mae’r Morlo Llwyd (Grey Seal) yn rhoi genedigaeth i’r rhai bach, rhwng canol Medi a chanol Tachwedd.




Efallai bod hyn yn ein taro fel amser rhyfedd i roi genedigaeth, ond mae’r mamau sydd wedi treulio’r haf yn bwydo ar y cyfoeth o fywyd gwyllt o amgylch arfordir Llŷn mewn cyflwr da iawn i gael rhai bach a’r holl fwyd yn rhoi nerth iddi gynhyrchu llefrith maethlon fydd yn cynnal y morlo bach yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd.




Mae’r Morloi benywaidd yn llusgo’u hunain i’r lan ar nifer o draethau caregog wrth waelod clogwyni neu mewn baeau cysgodol – llecynnau perffaith ar gyfer rhoi genedigaeth i’r rhai bach.








Mae nifer fawr o forloi wedi ymgartrefu ar Ynys Enlli, ynys sydd ddwy filltir i’r Gorllewin o Benrhyn Llŷn. Yma gellir gweld morloi bach blith draphlith ar draws ei gilydd ar y traethau bychain ac ym mhob twll a rhigol ar hyd yr ynys!





Os digwydd i chi weld morloi bach wrth gerdded Llwybr Arfordir Cymru mae’n holl bwysig eich bod yn cadw draw a pheidio eu haflonyddu, hyd yn oed os ydynt ar ben eu hunain. Mae arwyddion wedi eu gosod ar hyd arfordir Llŷn i addysgu ymwelwyr i adael llonydd i’r morloi bach yn ystod y cyfnod yma o’r flwyddyn.



Recent Posts

See All

Comments


Ariannir y prosiect hwn gan Llywodraeth y DU drwy raglen Cronfa Ffyniant Gyffredin | This project is funded by the UK government through the UK Shared Prosperity Fund.

King Coat of Arms - Dual Language_white - Funded By UK Government.png
Bangor.png
cyngor-gwynedd.png

Ariannwyd y prosiect hwn rhwng 2020 ac 2023 gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru | This project received funding from the European Regional Development Fund through the Ireland Wales Cooperation Programme between 2020 & 2023

WEFO Logo Transparent.png
bottom of page