Plas Heli
Mae Plas Heli yn gwmni di-elw sydd wedi ei sefydlu i redeg yr Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau ym Mhwllheli. Mae’r Hwb ym Mhlas Heli yn gartref i’r Grwp Awyr Agored, sy’n ymbarel i nifer o glybiau awyr agored LlÅ·n a Dwyfor gan eu cefnogi i annog a galluogi trigolion lleol i fanteisio a mwynhau adnoddau naturiol yr ardal.
​
Mae’r Hwb yn le i glybiau gadw a chyfle i rannu offer gyda’i gilydd, clybiau megis Clwb Syrffio LlÅ·n, Clwb Rhwyfo Pwllheli, Clwb Antur Dwyfor, CHIPAC (Cymdeithas Hwylio Ieuenctid Pwllheli a’r Cylch), Clwb Hwylio Pwllheli a Chadlanciau’r Môr Pwllheli a Phen LlÅ·n.
Caffi
Toiledau
Maes Parcio
Mynediad
am ddim
Gydag ystafelloedd cyfarfod, bwyty, bar a neuadd arddangos fawr mae adeilad Plas Heli yn ganolfan groesawgar i drigolion Pen LlÅ·n, Gwynedd ac ymwelwyr eraill. Mae'r pontwn newydd ar gyfer ymwelwyr a digwyddiadau yn fan i groesawu teithwyr sy’n cyrraedd o’r môr yn ogystal â bod yn ffordd i geufadwyr a rhwyfwyr ddefnyddio’r harbwr mewnol yn rhwydd gyda’r lithfra sydd yn rhan o’r pontwn. Cefnogir y prosiect hwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd.
​
Mae nifer o gyfleoedd i gynnal gweithgareddau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ar un safle ym Mhwllheli sydd â golygfeydd ysblennydd o fae Ceredigion, mynyddoedd Eryri ac arfordir LlÅ·n. Mi fydd 2019 yn fwrlwm o bencampwriaethau hwylio gydag ymwelwyr o bob cwr o’r byd yn profi croeso Cymreig LlÅ·n.
Oriau agor
Bwytu ar agor, rhaid archebu lle o flaen llaw. Manylion isod.
Cyswllt
01758 613 343
​
Gwefan
​