Eich pasbort i Benrhyn LlÅ·n...
Ydach chi'n barod i fynd ar daith? Y llyfryn yma ydi'r map i'ch harwain ar antur drwy LÅ·n i ymweld â safleoedd craidd yr Ecoamgueddfa.
​
O hanes a threftadaeth, i fentrau cymunedol, i oriel gelf, i ganolfan dysgu Cymraeg cenedlaethol - dewch i ymweld â'r canolfanau difyr yma! Pan fyddwch yn ymweld â'r canolfanau, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael stamp ar eich pasbort ymhob lleoliad er mwyn derbyn bathodyn yr Ecoamgueddfa.
Casglwch 7 stamp i dderbyn bathodyn Ecoamgueddfa!
Mae'r llyfryn pasbort ar gael am ddim o'r safleoedd yma; Nant Gwrtheyrn, Amgueddfa Forwrol LlÅ·n, Felin Uchaf, Plas Carmel, Porth y Swnt, Plas yn Rhiw, ac Oriel Plas Glyn y Weddw.
​
Pan fyddwch wedi casglu'r saith stamp, byddwch yn derbyn bathodyn arbennig yr Ecoamgueddfa. Mae'r bathodyn ar gael yn y safleoedd.
​
Mwynhewch eich siwrna o gwmpas Ecoamgueddfa Llŷn!​