
Nant Gwrtheyrn
Mae Nant Gwrtheyrn, neu’r ‘Nant’ fel y’i gelwir ar lafar gwlad, wedi’i lleoli mewn hen bentref chwarelyddol ar arfordir gogleddol Penrhyn LlÅ·n, ger pentref Llithfaen.
​
Mae Nant Gwrtheyrn ganolfan dreftadaeth a chynadleddau sy’n cynnig cyrsiau Cymraeg, caffi a llety hanesyddol rhagorol, i gyd mewn cwm hudolus sy’n llawn hanes a diwylliant.
​
Mae lleoliad unigryw Nant Gwrtheyrn yn cynnig golygfeydd godidog wrth i chi fynd ar deithiau cerdded ar hyd yr arfordir a thrwy’r goedwig, lle bydd byd natur i’w weld ar ei orau. Yn ein cwm diarffordd, cewch gyfle i brofi elfennau mwyaf dilys diwylliant traddodiadol a chyfoes Cymru.


![Icon-cafe].png](https://static.wixstatic.com/media/b8adee_9d52371ac8454d7c9cb1b82ffa1d78b9~mv2.png/v1/crop/x_41,y_7,w_117,h_187/fill/w_59,h_94,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/Icon-cafe%5D.png)
Caffi

Toiledau



Maes Parcio
Mynediad am ddim
Teithiau
Cerdded
Pethau i'w gwneud yn y Nant
​
-
Ymweld â’r ganolfan dreftadaeth a bythynnod chwarelwyr i ddysgu am hanes y cwm.
-
Cerdded ar hyd llwybrau lle mae’r môr a’r mynyddoedd yn cyfarfod. Mae'r Nant yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru, sy’n gyforiog o anifeiliaid gwyllt, adar prin, planhigion a blodau.
-
Ymlacio yng Nghaffi Meinir, lle mae’r holl fwyd yn gynnyrch cartref a lle cewch chi wasanaeth Cymraeg ardderchog a chyfle i fwynhau golygfeydd arfordirol anhygoel.
-
Ymuno â 30,000 o fyfyrwyr sydd wedi mynd ar gyrsiau Cymraeg a diwylliant yn y gorffennol yn ein canolfan ddysgu.
-
Aros yn y bythynnod traddodiadol a hyfryd.
​
Gyda chyfleusterau dan do a thu allan, gallwch fwynhau beth sydd gan y Nant i’w gynnig ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, beth bynnag fo’r tywydd. Mae mynediad am ddim i’r safle cyfan ac mae croeso i gŵn ym mhobman y tu allan.




Oriau agor
11:00 - 16:00
Cyswllt
01758 750 334
​
Gwefan
​