Gŵyl Archeoleg Llŷn
Rhaglen 2024
Plas Glyn y Weddw fydd cartref yr Ŵyl Archeoleg eleni. Mi fydd yn cael ei chynnal o ddydd Llun, Medi 16eg tan dydd Gwener Medi 20fed ac yn cynnwys llu o weithgareddau fydd yn rhoi trosolwg o fywyd cyn hanesyddol ym Mhen Llŷn. Mae'r rhaglen llawn i'w gweld isod. Noder y bydd gweithdai ar gyfer disgyblion o ysgolion Pen Llŷn yn ystod boreau dydd Mercher, Iau a Gwener felly awgrymwn i chi ymweld a’r arddangosfa wedi’r gweithdai ddod i ben am 11:30am.
Arddangosfa Meillionydd
Medi 16 - 20 | Plas Glyn y Weddw
Ymunwch â thim archeoleg Prifysgol Bangor i ddysgu mwy am Meillionydd, lloc cylchfyr ddwbl, ger Rhiw ym Mhen Llŷn. Bydd arddangosfa fechan yn yr Plas yn arddangos creiriau o'r gwaith cloddio Bydd hefyd arddangosfa fechan o greiriau o Dinas Dinlle gan Heneb, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd gynt. Croeso cynnes iawn i bawb
Taith gerdded archeolegol Rhiw
Medi 17eg | 10:30 - 13:00
Mae’r ardal o amgylch Mynydd Rhiw yn gyfoeth o safleoedd archeolegol sy’n cwmpasu hanes pobl o Oes y Cerrig i’r Oesoedd Canol a thu hwnt.
Ar y daith dywys hon, byddwn yn ymweld â rhai o’r safleoedd hyn ac yn edrych yn fanylach ar yr archaeoleg leol.