
Felin Uchaf
Ers 2004 mae’r elusen wedi trawsnewid ffermdy traddodiadol Cymreig a oedd wedi bod yn segur ers degawdau i mewn i ganolfan addysg holistig, a menter gymdeithasol. Prif nod y Felin Uchaf yw sefydlu menter ieuenctid rhyngwladol a ysbrydolwyd gan Ysgolion Gwerin byd eang.


Toiledau

Maes Parcio

Mynediad
am ddim
![Icon-cafe].png](https://static.wixstatic.com/media/b8adee_9d52371ac8454d7c9cb1b82ffa1d78b9~mv2.png/v1/crop/x_39,y_18,w_118,h_159/fill/w_51,h_72,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/Icon-cafe%5D.png)
Caffi
Mae Felin Uchaf wedi ei leoli yng nghanol, sef yng nghalon Pen LlÅ·n, yng Ngogledd Orllewin Cymru. Mae hon yn ardal arbennig o hardd gyda chyfoeth o hanes diwylliedig a chymunedau iaith gyntaf Cymraeg.
​
Mae’r Fenter yn darparu’r ffocws a’r adnoddau i bobl o bob oedran a chefndir diwylliedig i ddod gyda’i gilydd i ddysgu a rhannu profiadau.
​
Mae pob un o'r prosiectau adeiladu a thirlunio amrywiol sydd ar y gweill yn y ganolfan wedi cael eu cynllunio'n ofalus er mwyn creu cyfleoedd sy'n galluogi cymaint o wahanol bobl â phosibl i gymryd rhan yn y gwaith adeiladu a dysgu sgiliau. Mae Felin Uchaf yn cynnig ystod eang o weithgareddau gwirfoddoli a hyfforddiant o arddio organig i brosiectau eco-adeiladu a hyfforddiant sgiliau treftadaeth, ac yn darparu rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau diwylliannol a chymdeithasol sy'n ceisio grymuso a chyfoethogi bywydau ein pobl ifanc a'u cymunedau lleol.
​
Mae llawer ffordd i chi ymuno gyda'r Fenter, o gymryd rhan yn y cyrsiau sgiliau neu wirfoddoli neu drwy helpu cynnal yr Elusen yn ariannol a bod yn aelod.




Oriau agor
9:00 - 17:00
Cyswllt
01758 780 280
​
Gwefan
​