Taflenni Dysgu Cymraeg
I gyd-fynd â dathliadau Dydd Gŵyl Dewi 2023, cyhoeddwyd cyfres o bump canllaw byr er mwyn annog pobl i ddysgu rhai o eiriau a brawddegau Cymraeg. Creuwyd y gyfres mewn partneriaeth rhwng yr Ecoamgueddfa a Nant Gwrtheyrn, wedi i Ceri Williams, cyn-swyddog marchnata'r Nant, ymweld â Chernyw ac edrych ar taflenni tebyg i hyrwyddo dysgu Cernyweg.
​
Mae'r gyfres yn cynnwys y canlynol:
-
Cymraeg i ddechreuwyr
-
Cymraeg yn y cartref
-
Cymraeg yn y caffi
-
Cymraeg ar eich gwyliau
-
A'r un mwyaf poblogaidd, Cymraeg yn y dafarn!
​​
Ers cyhoeddi’r gyfres gyntaf yn 2023, rydym bellach wedi cyhoeddi tair taflen newydd mewn cydweithrediad â’r Eisteddfod Genedlaethol, Theatr Genedlaethol Cymru, Cynllun Arfor, ac Undeb Rygbi Cymru, sef Cymraeg yn yr Eisteddfod, Cymraeg yn y Theatr a Cymraeg ar y cae Rygbi. Mae’r holl daflenni ar gael i’w gweld isod.